Produktbild
Paul Tillich

Ar Y Ffin

Hunangofiant Deallusol

Buch

Roedd Paul Tillich (1886-1965) yn un o ddiwinyddion mwyafdylanwadol yr 20fed ganrif.Roedd yn un o'r cyntaf i feirniadu Hitler. Fe'i gorfodwyd i adael ei swydd yn y brifysgol gan y Llywodraeth Natsïaidd yn 1933, ac ymfudodd i America ble daeth yn ffigur diwylliannol cyhoeddus, gan ymddangos ar glawr cylchgrawn Time yn 1959.Gwaith Tillich oedd testun doethuriaeth Martin Luther King. Er gwaethaf dylanwad rhyngwladol Tillich, ychydig o ymwybyddiaeth sydd o'i waith ym Mhrydain. Cyfieithwyd y cyhoeddiad hwn o hunangofiant deallusol Tillich, Ar y Ffin, gan gydweithiwr i Tillich, yr athronydd John Heywood Thomas. Dyma'r cyntaf o weithiau Tillichi ymd… Mehr

CHF 22.90

Preise inkl. MwSt. und Versandkosten (Portofrei ab CHF 40.00)

Versandfertig innerhalb 1-3 Werktagen

Produktdetails


  • ISBN: 978-0-9935499-3-9
  • EAN: 9780993549939
  • Produktnummer: 36609793
  • Verlag: Beauchief Abbey Press
  • Sprache: Walisisch
  • Erscheinungsjahr: 2021
  • Seitenangabe: 128 S.
  • Masse: H21.0 cm x B14.8 cm x D0.7 cm 177 g
  • Abbildungen: Paperback
  • Gewicht: 177

Über den Autor


Addysgwr i John Heywood Thomas, Paul Tillich, oedd y diwinydd cyntaf i mi geisio'i ddirnad go iawn. Fe'm rhyfeddwyd gan ymdriniaeth ddofn Tillich â rhai o gwestiynau ysbrydol mwyaf yr ugeinfed ganrif, ac roedd yn ddryswch i mi nad oedd ymwybyddiaeth gyhoeddus o gwbl ym Mhrydain o'r meddwl mawr hwn. Mewn anerchiad ym Mhrifysgol Rhydychen yn 2014 siaradais am Coleridge a Tillich ac yn fuan wedyn dechreuais i a John Heywood Thomas siarad am brosiect i gyfieithu Tillich i Gymru. Dywedai Tillich yn aml wrth y rhai a oedd yn ceisio deall ei ymagwedd, darllenwch fy mhregethau yn gyntaf, felly fy syniad cychwynnol oedd gwahodd diwinyddion ac athronwyr i gyfieithu pregethau unigol gan Tillich, gan ychwanegu myfyrdod byr ynghylch perthnasedd y deunydd i'r cyd-destun Cymreig presennol. John fyddai'n golygu'r casgliad. Rwy'n gobeithio y gallwn wneud hynny o hyd, ond awgrymodd John ar unwaith y dylem ddechrau gydag Ar y Ffin. Y cyhoeddiad hwn yw ffrwyth y cydweithio hwnnw.

88 weitere Werke von Paul Tillich:


Bewertungen


0 von 0 Bewertungen

Geben Sie eine Bewertung ab!

Teilen Sie Ihre Erfahrungen mit dem Produkt mit anderen Kunden.